Amdanom Ni

Y cyfan amdanom ni, ein stori, a pham rydyn ni wrth ein bodd yn gwneud y peth rhedeg llwybr gwallgof hwn.

Dechreuodd y cyfan yma yn 2013 - ar brynhawn Tachwedd hyfryd a heulog ym Metws-y-coed

Roedd y grŵp cymunedol Betws Ymlaen wedi bod yn edrych ar syniadau ar gyfer digwyddiadau i hyrwyddo'r pentref a chodi arian at achosion da. Cyfarfu rhai o’r gwirfoddolwyr â Jayne Lloyd, Cyfarwyddwr Ras Marathon Eryri, a lluniwyd y syniad am ras llwybr trwy’r coed o amgylch Llyn Elsi y tu ôl i Eglwys y Santes Fair.

Dros y naw mlynedd nesaf tyfodd Llwybr Betws o nerth i nerth, gan ddod yn ffefryn mawr yn y calendr rasio llwybr, wrth gefnogi Help For Heroes ac achosion lleol.

Yn 2022 dechreuodd Llwybr Betws bennod newydd wrth i Jayne Lloyd a chyn gwirfoddolwr Betws Ymlaen Jon Davies ymuno i greu Digwyddiadau Bŵts Budur, i symud y digwyddiad hwn yn ei flaen a datblygu digwyddiadau newydd ag ethos tebyg. Gan ddefnyddio eu setiau sgiliau cyfunol, mae Jayne a Jon yn datblygu cyfres o ddigwyddiadau rhedeg llwybr sy’n darparu profiad technegol a golygfaol gwych i gyfranogwyr, ac yn gwneud diwrnod gwerth chweil a llawn hwyl i bawb sy’n cymryd rhan - rhedwyr, gwylwyr, marsialiaid a gwirfoddolwyr fel ei gilydd.

Er nad yw’n fenter ddielw yn swyddogol bellach, mae codi arian a chefnogaeth i’n partner elusen Help For Heroes ac achosion lleol yn parhau i fod wrth wraidd ein gweithgareddau – mewn gwirionedd rydym yn edrych i dyfu ein digwyddiadau fel eu bod yn codi hyd yn oed yn fwy o arian.

Jayne Lloyd - Cyfarwyddwr Rasio

Mae Jayne wedi bod yn gweithio fel trefnydd digwyddiadau ers 2004 a wedi gweithio ar nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys y fawreddog Marathon Eryri, y mae hi wedi bod yn ydlynydd am 18 mlynedd. Yn gyn-redwr Mynydd Rhyngwladol Cymru, mae Jayne yn hoffi gwneud profiad diwrnod y ras mor hwyliog a heriol â phosibl i'r rhedwyr, y gwylwyr a'r gwirfoddolwyr. Mae cymuned wrth galon popeth mae hi'n ceisio’i gyflawni drwy ei digwyddiadau, gan weithio’n agos gyda grwpiau cymunedol a thrigolion lleol i sicrhau eu bod yn cael y cyfle i elwa o’r effaith y mae’r niferoedd ymwelwyr posibl yn ei chael ar eu hardal.

jayne@muckybootsevents.com

Jon Davies - Cydlynydd Rasio

Gadawodd Jon y diwydiant moduron yn 2005 oherwydd ei fod yn cael gormod o hwyl, a daeth yn hunangyflogedig gyda'i bartner, yr artist Alison Bradley. Roedd eu horiel gyntaf ym Metws-y-coed ers dros ddeng mlynedd cyn symud i Gaer, ac yn ystod eu cyfnod yn y Betws bu Jon yn ymwneud â threfnu nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys Her Llwybr Betws-y-coed, Gŵyl Gelfyddydau Eryri, a Nadolig Betws. Ef yw'r boi sy'n eistedd yn dawel yn y cefndir, yn edrych ar daenlenni, ac yn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth. Mae Jon ac Alison wedi cefnogi Help for Heroes drwy eu horielau ers 2008, ac yn parhau i wneud hynny gyda Digwyddiadau Bŵts Budur.

jon@muckybootsevents.com