Sialens Llwybr Betws-y-coed

Prif Noddwr - Royal Oak Hotel, Betws-y-coed

29 & 30 Dachwedd 2024

Y gwreiddiol- ers 2013 rydym wedi bod yn mireinio’r fformiwla sydd yn gwneud ras llwybr gwerth chweil.

 

Ddoth y tîm a ddaeth yn Fŵts Budr at ei gilydd am y tro cyntaf yn 2013 ym Metws-y-coed, efo syniad am ras llwybr heriol a olygfaol o amgylch Llyn Elsi.

Roeddem eisio creu digwyddiad oedd yn gyfeillgar, cynhwysol, cynaliadwy, sydd yn canolbwyntio ar y rhedwyr, ac yn anad dim arall, yn wobrwyol i bawb sydd yn cymryd rhan - rhedwyr, gwylwyr, trefnwyr, marsials a rheini sydd yn gwirfoddoli.

Ychydig a wyddwn be fysa’n dod o Llwybr Betws - ras sefydlog yng nghalendr rasys llwybr, ras efo arwyddocâd arbennig i nifer o ein rhedwyr hyfryd, a - os ydym yn dweud ein hunain - dipyn o chwedl.

Os ydych wedi’i rhedeg o’r blaen, croeso yn ôl. Os mae hyn yw eich tro cyntaf, dewch i weld be mae’r cynnwrf i gyd am.

Dilynwch ni - #trailbetws

Mae ein Her Llwybr yn dechrau ac yn gorffen ym mhentref hardd Betws-y-coed - y Porth i Eryri. Mae’r cyrsiau ysblennydd yn mynd â chi drwy Goedwig Gwydyr ac i fyny o amgylch Llyn Elsi. Gan gynnig her wirioneddol a rhai o’r golygfeydd gorau ar galendr rhedeg llwybrau’r DU, mae Llwybr Betws wedi adeiladu enw rhagorol ers iddo ddechrau dros ddeng mlynedd yn ôl.

5k - 10k - Hanner Marathon - CaniX 

Ffioedd Mynediad 2024

Dydd Gwener 29ain o Dachwedd 2024

Ras Llwybr Nos 5k Firelight Five – o £16

Dydd Sadwrn 30ain o Dachwedd 2024

Ras Llwybr 10k – o £24

Ras Llwybr Canicross 10k – o £24

Ras Llwybr Hanner Marathon – o £33

Cynigion

5k + naill ai 10k – o £34

5k + Hanner Marathon – o £43

Prisiau adar cynnar ar gael tan Nadolig 2023

Prisiau adar hwyr yn dod i rym o Hydref 2024

Ychwanegwch ein hwdi unigryw Llwybr Betws #11 £45.00

Cliciwch y botwm i ymuno â ni a mynd yn fudur…

 Gwybodaeth Hanfodol

Dyddiad cau mynediad a dyddiad trosglwyddo - Dydd Sul 17eg o Dachwedd 2024

Ras Nos 5k Firelight Five, dydd Gwener 29ain o Dachwedd 2024

Pencadlys a gorffeniad y ras - Gwesty a Lodge Waterloo - LL24 0AR - ///published.actor.quiet

Cychwyn y ras – t.b.c.

Amser cychwyn y ras – t.b.c.

Amser torri i ffwrdd - dim terfyn amser

Cyflwyniad y ras – t.b.c.

Rasys 10k a Hanner Marathon, Dydd Sadwrn 30ain o Dachwedd 2024

Pencadlys a gorffeniad y ras - Gwesty a Lodge Waterloo - LL24 0AR - ///published.actor.quiet

Cychwyn y ras – t.b.c.

Amseroedd cychwyn y ras – hanner marathon 12:30; llwybr 10k: 13:00; 10k canix o 13:15 mewn tonnau

Amseroedd torri i ffwrdd - dim terfyn amser, bydd marsialiaid yn sefyll i lawr 15:00 hwyraf

Cyflwyniad yr râs - Gwesty Waterloo, 15:00

Am ragor o wybodaeth gyffredinol ewch i'n tudalen Rheolau a Chwestiynau Cyffredin

 

Rhedeg Llwybr Betws mewn steil - gellir ychwanegu ein hwdis rasio at eich archeb wrth cofrestru, eu harchebu ymlaen llaw yma heb cofrestru, a bydd gennym rai ar werth ar y diwrnod ym Mhencadlys y Ras. Ochr yn ochr â’r rhain bydd gennym hefyd ddetholiad o Mucky Merch ar gael i’w harchebu ar-lein a samplau i roi cynnig arnynt.

Lliw dillad rasio 2024 yw navy.

 Canlyniadau Diweddaraf

2023 Holl gategorïau

Am ganlyniadau rasys blaenorol, ewch i'n harchif canlyniadau.

Royal Oak Hotel

Please support our principal sponsor - because they support you

 Dilynwch Ni - #trailbetws