Help For Heroes

Rydym yn falch i helpu’r rheini sydd wedi anafu

Mae Help for Heroes yn coelio bod y rheini sydd yn gwasanaethu i ein gwlad yn haeddu cefnogaeth pan fyddan nhw wedi eu clwyfo.

Bob diwrnod, mae dynion a merched yn gorfod gadael eu gyrfaoedd yn y Lluoedd Arfog oherwydd anafiadau ffisegol neu seicolegol; eu bywydau wedi newid am byth.

Mae’r elusen yn helpu nhw, a rheini sydd dal yn gwasanaethu, i adennill a pharhau efo eu bywydau, trwy ddarparu cefnogaeth ffisegol, seicolegol, ariannol a lles am ba hyd maen nhw eu hangen o. Mae o hefyd yn cefnogi eu teuluoedd gan eu bod hwythau, yn ogystal, yn gallu cael eu heffeithio gan glwyfau eu hanwylyd.

Mae Help for Heroes yn derbyn bron i ddim cyllid gan y Llywodraeth, sydd yn golygu y maent yn dibynnu ar yr ysbryd a haelioni'r cyhoedd Prydeinig, eu partneriaid a gwirfoddolwyr i’w barhau. Mae o wedi cefnogi mwy nag 26,500 o bobl, a ni fydd yn stopio nes bod pob cyn-filwr clwyfedig yn cael y gefnogaeth maent yn haeddu.

 
 

Sut mae Help For Heroes yn helpu?

Lles Seicolegol – Rhoi mynediad i gyn-filwyr a’u hanwyliaid at gyngor, arweiniad a chefnogaeth ar gyfer trallod seicolegol, gan gynnwys straen, gorbryder ac iselder.Health & Physical Wellbeing – Offering therapeutic activities and education on healthy living

Lles – Darparu mynediad at Weithwyr Allweddol i helpu Cyn-filwyr a’u teuluoedd i fyw mewn cartrefi diogel, sefydlog a fforddiadwy sydd wedi’u haddasu i’w hanghenion; yn ogystal â chymorth i helpu gyda chyllidebu a rheoli dyledion.


Hyfforddiant a chymorth cyflogaeth – Cynnig cyngor a hyfforddiant gyrfaoedd, i helpu Cyn-filwyr i ddysgu sgiliau newydd